SL(5)194 - Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2018

Cefndir a Phwrpas

Mae’r Rheoliadau hyn yn trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/EC sy’n ymwneud â llaeth penodol sydd wedi ei breserfio a’i ddadhydradu’n rhannol neu’n llwyr i’w fwyta neu i’w yfed gan bobl.

Gweithdrefn

Negyddol.

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhan o "ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o'r UE" o dan gymal 2 o Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (y Bil). Felly, bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu cadw fel cyfraith ddomestig, a byddant yn parhau i gael effaith yng Nghymru ar y diwrnod ymadael ac wedi hynny. Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru addasu'r Rheoliadau hyn er mwyn ymdrin â diffygion sy'n deillio o ymadael â'r UE, yn amodol ar rai cyfyngiadau.

O ran Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/114/EC, ni fydd y Gyfarwyddeb honno'n rhan o gyfraith ddomestig yn awtomatig ar y diwrnod ymadael ac wedi hynny o dan y Bil. Fodd bynnag, os yw llys neu dribiwnlys wedi cydnabod, cyn y diwrnod ymadael, fod cyfarwyddeb yr UE yn rhoi hawl i unigolyn y gall yr unigolyn ddibynnu arno a'i gorfodi yn y gyfraith, bydd yr hawl honno'n ffurfio rhan o'r gyfraith ddomestig ar y diwrnod ymadael ac ar ôl hynny (gweler cymal 4 o'r Bil)..

Ymateb y Llywodraeth

Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

8 Mawrth 2018